SL(6)139 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2022
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”), i ddileu’r holl gyfyngiadau ar gynulliadau a digwyddiadau yn yr awyr agored mewn perthynas â Lefel Rhybudd 2, a gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021 ac a ddiwygiwyd ar 15 Ionawr 2022. Y cyfyngiadau sy’n cael eu dileu yw:
• y terfyn ar niferoedd ar gyfer digwyddiadau awyr agored a reoleiddir o 500 o bobl;
• y terfyn ar niferoedd a'r drosedd ar gyfer cynulliad yn yr awyr agored o fwy na 50 o bobl;
• y mesurau rhesymol ychwanegol ar gyfer lletygarwch awyr agored (y rheol chwech o bobl a’r gofyniad gwasanaeth bwrdd).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau:
• yn gysylltiedig â newidiadau Lefel Rhybudd 2, gan gynnwys dileu’r drosedd o gymryd rhan mewn cynulliad o fwy na 50 o bobl yn yr awyr agored mewn annedd breifat;
• fel bod y gofyniad i reoli mynediad i fangre ac i gwsmeriaid eistedd wrth archebu bwyd neu ddiod yn gymwys i rannau dan do o'r fangre yn unig.
Daeth y Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 21 Ionawr 2022.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y 4 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth hefyd o’r farn eu bod yn gymesur.
…
Mae addasu’r cyfyngiadau a’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws. Mae'n cydbwyso'r angen i gynnal ymateb priodol i'r bygythiad a achosir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy'n parhau'n gymesur â'r angen i leihau cyfradd trosglwyddiadau'r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“Oherwydd y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd y cyhoedd brys, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, ymgysylltwyd ag amrywiol randdeiliaid.”
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog, mewn llythyr at y Llywydd, ar 20 Ionawr 2022.
Yn benodol, nodwn fod y llythyr yn dweud:
“Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.”
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Nodir nad oes diwygiadau canlyniadol yn cael eu gwneud i Atodlen 1 i’r prif Reoliadau, sy’n nodi’r cyfyngiadau sy’n gymwys i Lefel Rhybudd 1. Canlyniad hyn, mewn perthynas â chynulliadau a digwyddiadau awyr agored, yw gwneud y cyfyngiadau sy’n gymwys i Lefel Rhybudd 2 yn llai beichus na’r rhai sy’n gymwys i Lefel Rhybudd 1. Gallai hyn achosi dryswch i'r rhai sy'n edrych ar y Lefelau Rhybudd gyda'r bwriad o ddeall mesurau posibl y gellid eu mabwysiadu ar gyfer pob un o'r Lefelau Rhybudd.
Er y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau i gywiro’r anghysondebau hyn pe bai Lefel Rhybudd 1 yn cael ei fabwysiadu, mae gwneud hynny’n gofyn am reoliadau diwygio ychwanegol. Mae'r Pwyllgor yn nodi bod 30 o reoliadau diwygio yn gysylltiedig â’r prif Reoliadau, gan gynnwys y Rheoliadau hyn. Gallai cynyddu nifer y rheoliadau diwygio leihau’r eglurder, yn benodol, mae hyn yn cynyddu nifer yr offerynnau y mae angen i berson eu hadolygu er mwyn deall y sefyllfa ar unrhyw adeg benodol. Gallai hynny arwain at ddryswch ac amwysedd. Cydnabyddir fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fersiwn gyfunol o'r prif Reoliadau ar hyn o bryd.
Gofynnir i Lywodraeth Cymru:
· a roddir unrhyw ystyriaeth i lunio set gyfunol newydd o reoliadau?
· a ellid ystyried defnyddio deunydd esboniadol (Nodiadau Esboniadol a Memoranda Esboniadol) i gynnwys esboniadau ychwanegol i sicrhau eglurder, megis egluro pa Lefel Rhybudd ac Atodlen gyfatebol sydd mewn grym, ac egluro na ddylai’r darllenydd gyferbynnu a chymharu Atodlenni?
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru o ran y pedwerydd bwynt rhinweddau.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2022 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.